Job 37

1Ac ydy, mae fy nghalon i'n crynu
ac yn methu curiad.
2Gwrandwch ar ei lais yn rhuo,
ac ar ei eiriau'n atseinio!
3Mae ei fellt yn fflachio drwy'r awyr –
ac yn mynd i ben draw'r byd.
4Yna wedyn, mae'n rhuo eto,
a'i lais cryf yn taranu;
mae'r mellt wedi hen ddiflannu pan glywir ei lais.
5Mae sŵn llais Duw'n taranu yn rhyfeddol!
Ac mae'n gwneud pethau gwyrthiol, tu hwnt i'n deall ni.
6Mae'n dweud wrth yr eira, ‘Disgyn ar y ddaear!’
neu wrth y glaw trwm, ‘Arllwys i lawr!’
7Mae'n stopio pawb rhag gweithio,
mae pobl yn gorfod sefyll yn segur.
8Mae anifeiliaid yn mynd i gysgodi,
ac i guddio yn eu gwâl.
9Mae'r corwynt yn codi o'r de,
ac oerni o wyntoedd y gogledd.
10Anadl Duw sy'n dod â rhew,
ac mae'r llynnoedd yn rhewi'n galed.
11Mae'n llenwi'r cymylau trwchus â gwlybaniaeth
ac yn anfon mellt ar wasgar o'r cymylau.
12Mae'n gwneud i'r cymylau droi a throelli,
ac yn gwneud beth mae Duw'n ei orchymyn
dros wyneb y ddaear i gyd.
13Mae'n gwneud hyn naill ai i gosbi'r tir,
neu i ddangos ei gariad ffyddlon.
14Gwranda ar hyn, Job;
Aros i ystyried y pethau rhyfeddol mae Duw'n eu gwneud.
15Wyt ti'n deall sut mae Duw'n trefnu'r cwbl,
ac yn gwneud i'r mellt fflachio o'r cymylau?
16Wyt ti'n deall sut mae'r cymylau'n aros yn yr awyr? –
gwaith rhyfeddol Duw, sy'n deall popeth yn berffaith.
17Ti, sy'n chwysu yn dy ddillad
pan mae'n glòs ac yn boeth dan wynt y de.
18Alli di helpu Duw i ledu'r awyr,
sy'n galed fel drych metel?
19Dywed wrthon ni beth i'w ddweud wrtho!
Dŷn ni ddim yn gwybod, mae hi'n dywyll arnon ni.
20Fyddwn i ddim yn meiddio gofyn am gael siarad!
Ydy dyn meidrol yn gofyn am gael ei lyncu ganddo?
21Does neb yn gallu edrych ar yr haul
pan mae'n disgleirio yn yr awyr,
ar ôl i'r gwynt ddod a chlirio'r cymylau i ffwrdd.
22Fel pelydrau euraid yn llewyrchu o'r gogledd,
mae ysblander Duw yn syfrdanol!
23Mae'r Un sy'n rheoli popeth y tu hwnt i'n cyrraedd ni!
Mae ei nerth mor aruthrol fawr!
Mae'n gyfiawn ac yn gwneud beth sy'n iawn,
a dydy e ddim yn gorthrymu neb.
24Dyna pam mae pobl yn ei ofni.
Dydy e'n cymryd dim sylw
o'r rhai sy'n ddoeth yn eu golwg eu hunain.”
Copyright information for CYM